Pan gymerir ymlaen dŷ sydd dros 230 oed (nid wyf wedi dod o hyd i’w ddyddiad adeiladu eto), mae’n debyg ei bod yn ddoeth cael arolwg strwythurol llawn.
Yn ffodus, daeth yr adroddiad yn ôl gyda’r ymwadiadau a’r cafeatau arferol ond yn y pen draw ar wahân i dynnu sylw at nifer o fannau llaith ynghyd â’r tô ar yr adeilad allanol angen sylw, rhoddodd yr hyder imi symud ymlaen gyda’r pryniant o leiaf ar ôl gwneud rhywfaint o ddiwydrwydd dyladwy.
Roedd preswylwyr wedi bod yn byw yn yr eiddo cyn iddo gael ei werthu a dangosodd gwiriad o’r boeler yn ystod yr ymweliad fod y rheiddiaduron a’r dŵr poeth yn gweithio felly mewn gwirionedd dim ond achos o’u diweddaru oedd fy anghenion i er mwyn ceisio creu arddull deilwng o’i hanes.
Ar ôl ysgaru yn ddiweddar, roeddwn i’n byw mewn tŷ wedi’i ddodrefnu ar rent felly roedd gen i ddodrefn cyfyngedig ar gael. Roeddwn i eisiau buddsoddi fy nghyfalaf yn yr eiddo yn hytrach na dodrefn, felly fy nod oedd prynu dodrefn ail law / uwchgylchu lle bo hynny’n bosibl. Mae’n debyg bod hyn yn golygu am yr ychydig flynyddoedd cyntaf y bydd y dodrefn mewnol yn addasu wrth i’r ystafelloedd gael eu gwneud ond roeddwn i’n iawn gyda hynny fel dull gweithredu.
Un peth y cytunodd fy mhlant (wel mae’r ddau ohonyn nhw’n oedolion) oedd rhoi enw personol i bob ystafell wely yn seiliedig ar ei nodweddion felly fe wnaethon ni setlo ar:
• Ystafell Wely 1 – Cariad
• Ystafell Wely 2 – Ymlacio
• Ystafell Wely 3 – Cysgu
• Ystafell Wely 4 – Teulu
Hefyd byddai’r ystafell ffrynt (y cwtsh fel dwi’n ei galw) gyda’r lle tân mawr gwreiddiol (sy’n ymddangos yn anffodus bod ei simnai wedi’i ddatgomisiynu) yn cael ei droi yn swyddfa / ystafell ymlacio gyda fy nghit drwm a set gwyddbwyll. Efallai byddai angen edrych ar yr ystafell yma eto a’i newid fel mae’r amser yn mynd yn ei flaen, ond cawn weld.
Fel rheolwr prosiect yn ôl proffesiwn, fe allech chi ddychmygu bod cynllun prosiect, cyllideb a bwrdd gwyn yn hanfodol ond doeddwn i ddim eisiau i hynny gyfyngu ar y digymelldeb a’r cyfle i addasu wrth i mi ddod o hyd i bethau newydd, wel dyna dwi’n dal i ddweud wrthyf fy hun.
Felly roedd y cynllun cychwynnol fel a ganlyn:
Rhagfyr 2020 – symud i mewn a threulio y Nadolig yno
2021 – Ailosod cegin, ystafell amlbwrpas, ystafell ymolchi, toiled, gosod en suite, trydan ychwanegol yn ôl yr angen, ail-gomisiynu llosgwr coed a lleoedd tân, garejys wedi’u sefydlu fel gweithdai
2022/3 – Adnewyddu’r lolfa, ystafell fwyta, cwtsh, cyntedd ac ystafelloedd gwely yn cynnwys unrhyw driniaeth llaith yn ôl yr angen
2024/5 – Tô ar adeilad allanol, gweithio allan defnydd ar gyfer lefel uchaf yr adeilad allanol, gweithio allan y defnydd o’r seler, ystyried cael gwared ar y rendro Rwy’n credu bod hynny’n ddigon am y tro dwi’n credu …